Croeso i Sgwad Safio Dylan!
Rydym ni wedi creu’r wefan anhygoel hon yn arbennig ar eich cyfer chi, er mwyn i chi allu dysgu’r holl ffyrdd anhygoel o gynilo a gofalu am eich arian. Mae Dylan y Ddraig wrth ei fodd yn chwarae gemau arian gyda’i ffrindiau a byddai’n hoffi i chi ei helpu.
Lawrlwythwch Ap Cuddfan Dylan
Yn ogystal â helpu Dylan gyda’i arian yn yr Hwb, drwy lawrlwytho’r ap, byddwch chi’n gallu treulio hyd yn oed mwy o amser gydag ef. Gallwch ddatgloi gemau newydd, treulio amser yn ei gartref cŵl, hedfan gydag ef a dod yn ffrindiau da!
Hwb Plant
Chwaraewch gemau cyffrous i helpu Dylan i gynilo ar gyfer tair antur wych a fydd yn ei arwain i bob cwr o Gymru ac yn nôl adref.
Hwb Athrawon
At sylw pob athro! Mae eich hwb Athrawon yn llawn deunyddiau dysgu a gweithgareddau addysgol, i helpu plant i ddysgu am arian a sut i’w gynilo a’i reoli.